Addoliad
Y mae'r Eglwys yn bodoli i amlhau'r ymwybyddiaeth o bresenoldeb Duw ac i ddathlu cariad Duw
- Beth sydd yn ein cynorthwyo i ganolbwyntio ein haddoliad ar Dduw?
- Ym mha le a pha bryd y teimlwn bresenoldeb Duw? Sut y gall y profiadau hyn gyfoethogi gwasanaethau o addoliad?
- Beth sydd yn ein cymell i astudio'r Beibl?
- Beth sydd yn ein cynorthwyo i gyfleu parchedig ofn a rhyfeddod, diolchgarwch a moliant, a chariad tuag at Dduw? Sut y gallwn ddefnyddio adnoddau o'r Eglwys fyd-eang?
- Beth fyddai'n cynorthwyo ein haddoliad i wneud synnwyr i bobl sy'n dod ond yn achlysurol?
- A allwn wella cyfforddusrwydd a golwg y pethau o'n cwmpas a'r croeso ar gyfer y rhai ag anabledd?
- A yw ein haddoliad yr un fath fwy neu lai bob amser? A ddylem archwilio dulliau a thraddodiadau addoli enwadau eraill a rhannau eraill o'r byd?
Beth yw ein cynlluniau a'n hamcanion ar gyfer gwella ein haddoliadyn ystod y flwyddyn nesaf?
Dysgu a gofalu
Y mae'r Eglwys yn bodoli i helpu pobl i dyfu a dysgu fel Cristnogion, drwy gynnal a gofalu am ei gilydd
- Pa weithgareddau eglwysig sydd yn ein cynorthwyo fwyaf i ddyfnhau ein ffydd yn Nuw?
- Pa mor effeithiol yw ein grwpiau bychain, wrth gysylltu ffydd bywyd pob dydd?
- Sut yr ydym yn dysgu am her y bywyd Cristnogol heddiw gan eglwysi mewn mannau eraill o Brydain a'r byd ehangach?
- A oes gweithgareddau ymylol y dylem eu dwyn i ben, er mwyn neilltuo amser ar gyfer ein hanghenion hyfforddiant a dysgu?
- Pa weithgareddau sydd yn ei gwneud yn hawdd i eraill ymuno ni? Pa gysylltiadau sydd gennym grwpiau sy'n defnyddio ein hadeiladau?
- Beth a ddisgwyliwn oddi wrth ein bugeiliaid? Beth a ddisgwyliwn oddi wrth ein gilydd mewn cynhaliaeth a gofal? A ydym yn sylwi ar neu'n poeni am y rheini sy'n llithro ymaith neu'n gadael?
Beth yw ein cynlluniau a'n hamcanion ar gyfer datblygu ein bywyd gyda'n gilydd yn ystod y flwyddyn nesaf?
Gwasanaeth
Y mae'r Eglwys yn bodoli i fod yn gymydog da i bobl mewn angen ac i herio anghyfiawnder
- Sut yr ydym yn canfod beth yw anghenion ein cymuned ac yn ymateb iddynt?
- Pwy sydd rhan mewn gwasanaeth i'r gymuned drwy elusennau neu grwpiau cymunedol? A oes cyfleoedd i fwy ohonom fod rhan? Sut yr ydym yn rhoi sylw i'r materion moesol sy'n deillio o waith beunyddiol?
- A ydym yn rhannu 'n gilydd ein pryderon am bethau nad ydynt yn ymddangos yn iawn, neu sy'n achosi helynt yn ein cymuned, neu sy'n ymddangos yn anghyfiawn? Sut yr ydym yn herio anghyfiawnder mewn mannau eraill o'r byd?
- A ydym yn gwneud y defnydd gorau o'n hadeiladau a'n harian ar gyfer gwasanaeth i'r gymuned? A ydym yn gwastraffu adnoddau? A ydym yn defnyddio ein hamser a'n hadnoddau mewn ffyrdd sy'n gyson 'n daliadau a'n gwerthoedd?
- Sut mae bywyd ein cymuned, a'n rhan ninnau ynddo, yn cael eu lle yng ngweddau'r eglwys?
Beth yw ein cynlluniau a'n hamcanion ar gyfer gwella ein cysylltiad 'r gymuned yn ystod y flwyddyn nesaf?
Efengylu
Y mae'r Eglwys yn bodoli i wneud rhagor o ddilynwyr Iesu Grist
- Sut yr ydym yn datblygu agwedd gyfeillgar tuag at bawb y cyfarfyddwn hwy?
- A oes gennym neges glir? A yw'r geiriau a ddefnyddiwn yn syml ac yn ystyrlon iÌ¢åÛåªr rhai tu allan i'r Eglwys?
- Beth sydd yn denu eraill i'r ffydd Gristnogol? A oes camau y gellid eu cymryd gennym i gyflwyno ein hargyhoeddiadau? A allwn wneud hyn gyda Christnogion o enwadau eraill? Ym mha le y dylai'r canolbwynt fod - mewn adeiladau eglwysig, neu yn y gymuned?
- Sut y gallwn ddysgu am dystiolaeth effeithiol gan Gristnogion diwylliannau eraill?
- Beth allwn ei wneud i wneud ein hadeiladau yn fwy croesawgar?
- A ddylem ystyried plannu cynulleidfa newydd yn yr ardal hon?
Beth yw ein cynlluniau a'n hamcanion ar gyfer gwneud rhagor o ddilynwyr Iesu Grist yn ystod y flwyddyn nesaf?
Mabwysiadwyd Ein Galwad gan Gynhadledd Fethodistaidd 2000, wedi ymgynghoriad eang ag eglwysi, cylchdeithiau a thaleithiau.Rhowch wybod inni sut yr ydych yn ymateb i weledigaeth Ein Galwad. Rhannwch eich cynlluniau a'ch breuddwydion a'ch hanesion calonogol ag eraill ar draws y Cyfundeb.